Bio
Mae Dafydd Hedd yn artist roc a dawns indie Cymraeg o fynyddoedd Eryri. Wedi arwyddo i Bryn Rock Records yn 2022 a'i draciau yn cael ei chwarae ar Capital, Radio Cymru a BBC Radio Bristol.
Wedi’i nodweddu gan ei lais graenog, ei berfformiad lleisiol pwerus ac am adrodd straeon y tu ôl i’r caneuon, disgwyliwch rêl-gostwr lle gallwch deimlo cyffro noson gig indie a’r nesaf ar lawr dawnsio mewn clwb nos niwlog.
Mae’r artist 20 oed a'i fand yn gigio i fyny ac i lawr y wlad yn rhannu cerddoriaeth Gymraeg gyda’r byd, diwylliant sydd angen ei drysori. Mae’r caneuon fel arfer yn ddeuoliaeth o obaith ac iselder a ysbrydolwyd gan yr epidemig iechyd meddwl, digwyddiadau gwleidyddol a rhai materion personol ym mywyd Daf.