Cerddoriaeth

sut allai brynu'r cerddorieth?

Mae pob un o'r teitlau yma ar gael ar pob platfform mawr fel:

Y cyhuddiadau

31/08/2019

Disgrifiad

Y Cyhuddiadau yw 'debut' album Dafydd Hedd. Mae gan hi 11 trac amrywiol iawn o ran arddull yn cynnwys pop, rock, dawns, reggae a serch. Disgrifiai hi fel casgliad o ganeuon am gariad, thristwch, bywyd modern a chymuned.

Mae hi bellach ar gael ar pob platfform mawr fel Spotify ac Apple Music. Caneuon mwyaf poblogaidd yr albwm oedd Cyhuddiadau, Vector a Gwyrddlas. Sawl can adnabyddus o sawl gig cyn y cyfnod clo COVID-19.


Gwobrau ac adolygiadau:

Cafodd Y Cyhuddiadau ei henwebu ar gyfer Gwobrau Y Selar 2019, a chofodd hi 10fed. 

Cewch ddarllen yr adolygiad yma: 

HUNANLADDIAD ATLAS

04/04/2020

Disgrifiad:

Mae ail albwm Dafydd Hedd, Hunanladdiad Atlas yn gasgliad o naw can sy'n trafod themau geowleidyddol, colli ffrindiau, cyfiawnder cymdeithasol ac mwy na dim, y crisis hinsawdd. Mae Dafydd wastad wedi bod yn berson sy'n pryderu am chwalfa yr amgylchedd, ac roedd cymryd rhan mewn protest XR ac yn dysgu mwy am y pwnc wedi ei sbarduno i ysgrifennu y trac teitl: Fflamdy. Mae hefyd sawl son am ei gartref ol-ddiwyddianol Bethesda, yn trafod stori'r chwarel yn Craith Weledol. Yn torri ar y naws tywyll, mae sawl can Saesneg blws yn torri. Mae'r llais graenog yn cyfleu ei brofiadau torcalonnus yn North Pole a Glowstick. Mae sawl can llai tywyll sydd ddim yn blws hefyd, fel Cyfarwydd a Phrin, un o'r caneuon mwyaf poblogaidd oddi ar y casgliad, yn son am arferion hogiau ifanc efo cadw cariad a phroblemau ymrywiad mewn cymdeithas modern. Yn olaf, ddaw Atlantico, gyda samplau o'r mor er mwyn cyfleu'r neges fod nid yw popeth yn parhau am byth, ac hyd yn oed os ydych yn colli pobl, ddaw pobl newydd, a defnyddio'r syniad o erydiad y mor yn 'Atlantico' i gyfleu hyn.


Gwobrau ac Adolygiadau

Cafodd Hunanladdiad Atlas ei henwebu eto ar gyfer wobr selar yng nghategori Record Hir Orau 2020:

Cafodd Dafydd 7fed yn y categori hon, yn gwella ar ei berfformiad y flwyddyn cynt.

O ran adolygiadau, ddaru Sarah Wyn Jones oddi ar MonFM ddweud hyn:

"Mae Dafydd Hedd wedi datblygu ei grefft yn yr albym newydd yma. Dwi'n clywed mwy o arbrofio efo'i swn ond yn cadw at ei ddawn cryf o ysgrifennu geiriau ac adrodd teimladau a straeon. Mae ei dalent blynyddoedd maith o'i flaen ei oed. Mae'n fraint gael gwrando ar yr albym yn gyntaf" - Sarah Wynne, Mon FM

Ddaru Daf Jones hefyd ysgrifennu adolygiad llawn o fy albwm Hunanladdiad Atlas. Darllenwch yma:


Darlun: Gog Republic

ANGHOFIAI DDIM

08/06/2020

Disgrifiad

Sengl pwerus sy’n dathlu holl waith yr gwasanaeth iechyd dros cyfnod COVID-19. Diolch i’r gymuned.

Gwobrau ac adolygiadau

Dim byd eto...


Celf: Iestyn Gwyn Jones

adolygiad ifan pritchard

Ma’ Dafydd yn datblygu i fod yn un o artistiaid ifanc gora’r sîn! Ma’i allu i sgwennu a cynhyrchu ei waith ei hyn yn class, ac yn dangos cymaint o frwdfrydedd sy gan Dafydd at gerddoriaeth, a’r sîn. Ma hon yn gân a hanner. Gwyliwch alla

FOLLOW ME

02/04/2021

Disgrifiad:

Mae Follow Me yn sengl caiff ei recordio, gynhyrchu ac ysgrifennu dros y we gyda Iestyn Gwyn Jones dros cyfnod y pandemig. Mae'n gan sy'n son am obaith mewn cyd-destun llwm. Y geiriau sy'n sefyll allan fwyaf yw "things will get better", "you can follow me" a "come outside, see the view". Mae'r gan yn un indie rock gyda build up mawr tuag at y gytgan olaf drwy defnydd o gitar a cynhyrchu atmosfferig er mwyn codi tensiwn. 

Gwobrau ac adolygiadau:

Does dim gwobr wedi gael ei roi i Follow Me eisioes.

adolygiad elis derby

Mae Dafydd Hedd yn artist sydd wedi parhau i gadw’n brysur yn ystod blwyddyn heriol eithriadol i berfformwyr- boed hynny trwy arwain podcast “Y Calendr”, neu llwyfannu gigs rhithiol ar ei dudalen Instagram. Y sengl “Follow Me” yw’r ychwanegiad diweddaraf i ganon y cerddor o Fethesda. Dwi wastad wedi ystyried cerddoriaeth Dafydd i fod â naws reit bluesy, a’n seiliedig yn bennaf ar sŵn gitar gritty, felly roedd clywed piano fel y brif offeryn

yn chwa o awyr iach. Mae ei lais unigryw yn gweddu’n hyfryd gyda cordiau melancolig y gân, sy’n creu awyrgylch llwm a thywyll, er bod y geiriau’n cyferbynnu; “Follow me, things will get better”. Teimlaf bod angen rhoi sylw i’r cynhyrchu yn ogystal, gyda’r reverb trwm ar y gitar cefndirol yn ychwanegiad perffaith i’r awyrgylch atmosfferig. Er mor hoff oeddwn o’r cynhyrchu a’r offeryniaeth, teimlaf y bysai’r gân wedi elwa o fwy o ddatblygiad cerddorol, drwy ychwanegu mwy offerynnau hyd at y diwedd er enghraifft, neu cyflwyno adran gwbl newydd. Onibai am hynny, o’n safbwynt i, dyma’r enghraifft mwya’ aeddfed o waith Dafydd Hedd hyd yn hyn, a’n gam ymlaen i gyfeiriad gwahanol. Edrychaf ymlaen i glywed mwy o beth sydd gan y cerddor ifanc i’w gynnig.

Celf: Lleucu Bryn

YR IFANC SY'N gwnEUD DIM BYD

04/06/2021

Disgrifiad

EP newydd sy'n son am streon a theimladau pobl drwy amseroedd anodd gyda ysbeidiau gobeithiol o bryd i bryd.

Mae'n gasgliad o 5 can sy'n wahanol iawn i'w gilydd. O reggae, punk, rock, pop a country, mae na rhywbeth i bawb ar y casgliad newydd hon caiff ei recordio yn Studio Un.

Gwobrau ac adolygiadau

Y Selar - Record Fer Orau - Top 4 

Mae sawl person wedi adolygu neu wedi rhoi sylwadau ar yr EP fel Daf Jones.


niwl - endaf (ft. dafydd hedd + mike rp)

02/07/2021

Disgrifiad:

Cafodd y drac electronic yma ei greu o ganlyniad ennill cystadleuaeth Talent Sbardun Ifanc efo Mike RP. Mae na deimlad hafog a naws Disclosure arni, gyda gieirau angerddol sydd wedi dod a ddwy gan blaenorol ac ei gywasgu a'i gilydd. Mae'n son am y deimlad o 'Niwl' pan yn teimlo pethau megis cariad, euogrwydd a pan tydi'r peth iawn i wneud ddim yn glir. Mae Endaf a Mike wedyn yn creu cerddoriaeth dawns ffynci er mwyn cydfynd a syniad y geiriau a'r llais.

Gwobrau ac adolygiadau:

Gwobrau Selar - Can Orau - Top 4

Welsh connections:

"Niwl” is a single released by a group of musicians/artists who have been part of a project called “Sbardun Talent Ifanc” - which is lead by Endaf Roberts – that gives young up and coming musicians the chance to collaborate with Endaf and create new Welsh language music. Two of four successful applicants for the song were Mike Pritchard (Mike RP) and Dafydd Hedd who both feature in the track. Bethesda based Dafydd is an 18 year old artist who has experience with multiple genres including indie rock, blues, pop and punk (“Niwl” being his first introduction to electronic music) Mike RP is a 19 year old DJ / producer and is mainly associated with tech house and disco. The combination of Dafydd’s vocals and Mike’s club influences work really well together in an eclectic mix of electro and jazz, there is an unmistakable club/remix vibe throughout the track featuring a bouncy bassline and heavy

synth notes that fit perfectly with the Welsh lyrics and Dafydd’s voice. “Niwl” is a song that would complete the soundtrack for a summer of sunshine and the many socially distanced outdoor events that have successfully helped music make its much anticipated comeback. What is even more worth praising is the

main goal of the project which has created the opportunities to set up collaborations between artists who may never have had the chance without it – and “Niwl” proves the efforts have paid off pretty well indeed. A real track for the summer!

ATGYFODI

14/01/2022

Disgrifiad

Mae Atgyfodi yn drac dawns sy'n trafod y teimlad gret o ddod dros amseroedd anodd. Mae'n egniol, hapus ac yn angerddol ofandwy. 


Gwborau + Adolygiadau:

FAKE INDIE SONG

29/04/2022

Disgrifiad:

Trac indie roc breuddwydiol ond trawiadol.

Wedi’i ysbrydoli gan y dewis o ddilyn eich breuddwydion neu orfod ennill bywoliaeth, mae’r trac chwerw hwn yn ail-greu llawenydd creadigrwydd mewn tirwedd fwy corfforaethol. Mae gitarau gofodol a riff bachog yn crynhoi'r gân o'r cychwyn cyntaf. Mae drymiau tynn a chaled yn cario'r naws ar draws y gân. Persona grunglyd a rhwystredig ynghyd â llais graenog, melodig sy'n gosod yr olygfa.

Mae gan gelf yr albwm dempled minimalistaidd sy'n cynnwys ychydig ond teitl a'r bag yn llawn am arian yn gwisgo het beanie. Y rhai sy'n parhau i greu er gwaethaf y brwydrau sy'n indie i mi.

COLLI AR FY HUN (FRMAND REMIX)

12/05/2023

Disgrifiad:

Remix drwm a bas o'r gan trist sy'n son am y teimlad o beidio gael personoliaeth ond yn gorfod byw trwy bywyd pob dydd.

CHWAREL BIWS

30/06/2023

Disgrifiad:

Ysbrydolwyd y gân drwy gerdd a ysgrifennais pan oeddwn yn bedair ar ddeg oed am sut mae'r teimlad o undod yn y gymuned wedi esblygu dros yr oesoedd. Fel artist o Fethesda, reit yn ganol ardal y chwareloedd, mae hanes diwydianol yr ardal wedi creu argraff arnai. Wrth astudio economeg ym Mryste ac yn darllen drwy hen llyfrau nodiadau, ddaru mi ddod ar draws y geiriau “Sut mae’r golyfa’n newid, y castell sy’n troi’n rhyfelgar, chapel oer sydd dal i sefyll, a’r tristwch wedi harfer”. Roedd rhaid i mi greu rhywbeth gyda hwn, a ceisio’i chyferbynnu’r gyda’r presenol.

 

Mae na naws indie roc gyda teimlad ymlaciol ac ysbeidiau egniol. Mae’r swn yn amlwg wedi cael ei ddylanwadu gan Nirvana, Maffia Mr Huws a Papur Wal gyda llais graeniog ond mynegiannol Dafydd. Mae’r swn gitar yn gymysgedd o Red Hot Chilli Peppers, The 1975 ac Mari Mathias. Mae Morgan ar y dryms wedi cael ei ysbrydoli gan artistiaid shoegze fel Block Party a Tame Imapala a gallir weld hyn yn y fills. Mae Osian Cai hefyd yn cymryd ysbrydoliaeth tebyg. Mae’r geiriau yn cyfleu themau o rhwystredigaeth cymdeithasol, anobaith, dirfodolaeth a hiraeth.

BIA Y NOS

15/09/2023

Disgrifiad:

Ysgrifennais "Bia Y Nos" blwyddyn yn ol, yng nghanol yr argyfwng sbeicio diodydd i magu hyder dioddefwyr ac anfon neges. Dylai pawb allu mwynhau noson allan heb ots pwy ydyn nhw. Roedd yr argyfwng yn ofnadwy ym Mryste, lle rwy'n fyfyriwr, felly fe wnes i drosglwyddo fyrhwystredigaeth ail-law yn uniongyrchol i'r gân hon.

 

Yn gerddorol, mae ganddo deimlad tebyg i Radiohead, Declan McKenna, CHROMA, Mellt, Red Hot Chilli Peppers a Sam Fender. Mae'n nodweddiadol o'n naws indie ‘chill’ sy'n datblygu, yn enwedig lle mae’r alawon gitâr gwahanol yn gorwedd ar ben ei gilydd. O ran themau’r geiriau, mae'n dadansoddi anghyfiawnder cymdeithasol, diogelwch, cryfder cymunedol a’r syniad fod na bobl yn edrych allan amdanoch.

 

Mewn ychydig o eiriau: anthem indie ffeministaidd sy'n cyflwyno pwer, ysbrydoliaeth a gwneud i bobl deimlo'n ddiogel.

 


ROCSTAR

12/01/2024

Disgrifiad:

Ysgrifennais "Rocstar” o bersbectif plentynnaidd artist ifanc sydd yn gweld dim byd arall yn bwysig heblaw am rocio, gigio a gweld y byd. Mae hyn yn cael ei gyferbynnu gyda realiti o fywyd, annhegwch gwleidyddol a chariad mewn breuddwydion eraill. Yn ystod y gan, mae’r “rocstar” yn tyfu fyny; dal i garu rocio ond yn annog bawb “i ymladd dros eu hawliau er mwyn dyfodol y byd”. Mae’r clawr yn cynnwys carreg photoshop efo gwen fyny i lawr a llygaid “googly” gyda sêr yn y cefndir. Mae’r natur syml (braidd rhy syml os rhywbeth) yn cyfleu’r emosiynau cymhleth o beidio gallu mentro dy freuddwyd a’r dicter, tristwch, cenfigen a dryswch mewnol.

 

Yn gerddorol, mae ganddo deimlad tebyg a dylanwad gan Nirvana, Los Blancos, BLE?, The Clash, Red Hot Chilli Peppers a Sam Fender. Mae'n nodweddiadol o'r naws punk ‘chill’ sy'n datblygu.

 

Mewn ychydig o eiriau: anthem amgen, grunge-rock sy’n adrodd stori “rocstar” ifanc yn aeddfedu a mynd yn flin pan mae anghyfiawnder yn lladd breuddwydion.